At: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Oddi wrth:
Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth
Dyddiad y cyfarfod: 16 Ionawr 2014
MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL ATODOL AR GYFER Y BIL PLANT A THEULUOEDD: RHEOLEIDDIO DEUNYDD PECYNNU A CHYNHYRCHION TYBACO, A CHREU TROSEDDAU CYSYLLTIEDIG
Diben
1. Gwahodd y Pwyllgor i ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol (“y memorandwm”) ar y Bil Plant a Theuluoedd sy’n ymwneud â deunydd pecynnu tybaco ar gyfer manwerthu, rheoleiddio cynhyrchion tybaco a chreu troseddau cysylltiedig.
Cefndir
2. Gosodwyd y memorandwm hwn ar gyfer y Bil Plant a Theuluoedd gerbron y Cynulliad ar 17 Rhagfyr 2013. Oherwydd bod y Bil wedi cyrraedd ei gyfnodau terfynol yn Senedd y DU, rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynnig yn ceisio cydsyniad deddfwriaethol y Cynulliad yn fuan.
3. Yn sgil yr amserlenni tynn sy’n gysylltiedig â’r memorandwm atodol hwn, nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, cyn toriad y Nadolig ei fod yn fodlon mynd i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor ym mis Ionawr i ateb cwestiynau’r Aelodau. Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r sesiwn hon gael ei chynnal er mwyn hysbysu Aelodau ynglŷn â’r memorandwm atodol cyn y ddadl berthnasol yn y Cyfarfod Llawn.
Y memorandwm atodol
4. Mae’r memorandwm atodol ynghlwm fel Atodiad A i’r papur hwn. Mae’r gwelliant sy’n berthnasol i’r memorandwm atodol ynghlwm fel Atodiad B (noder bod Atodiad B yn Saesneg yn unig gan mai gwelliant sydd wedi’i gyflwyno yn Senedd y DU ydyw).
5. Mae’r Gwasanaethau Cyfreithiol wedi adolygu’r memorandwm atodol ac nid oes ganddynt unrhyw bwyntiau ychwanegol i’w codi yn ychwanegol i’r rheini a amlinellir yn y memorandwm, heblaw am y ffaith y bydd y pwer i wneud rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn San Steffan.
Cam i’w gymryd
6. Gwahoddir y Pwyllgor i holi’r Gweinidog ynglŷn â’r memorandwm atodol ac i archwilio unrhyw faterion yr hoffai Aelodau gael eglurhad ohonynt cyn y ddadl berthnasol yn y Cyfarfod Llawn.